Rydym yn dod i fyny at Ddydd Gŷyl Dewi ar Fawrth y 1af lle bydd llawer o ysgolion yn dathlu'r diwrnod arbennig gyda chyngerdd neu'r Eisteddfod Ysgol.
Dyma rai caneuon sy'n cael eu cynnwys yn ein hadran Cwricwlwm Cymreig y gellid eu defnyddio fel rhan o'ch dathliadau.
 
Hen wlad fy nhadau - Evan James a James James
Anthem genedlaethol Cymru a gyfansoddwyd ym mis Ionawr 1856.
 
Moliannwn - traddodiadol
Cân draddodiadol Gwerin Cymru 'Moliannwn'. Cân llawenydd am groesawu'r gwanwyn.
 
Canu wnaf a bod yn llawen - gosodiad Gwennant Pyrs
Gosodiad Cerdd Dant (canu pennillion). 
 
Migldi Magldi - traddodiadol
Cân werin draddodiadol Gymreig mae'r byrdwn yn dynwared gof yn y gwaith.
 
Calon lân - John Hughes
Emyn Cymraeg enwog sydd yn aml yn gysylltiedig gydag Undeb Rygbi Cymru, ac yn cael ei chanu cyn bron pob gêm brawf sy'n ymwneud â'r tîm cenedlaethol.
 
Sing out loud - Einion Dafydd a Cefin Roberts
Mae hon yn gân sydd wedi ei gomisiynu i adlewyrchu ethos y prosiect CânSing. Mae'n cyfeirio at y dreftadaeth a diwylliant Cymru ac yn ddwyieithog i ddynodi uno y ddwy iaith.
 
Y Gelynnen - traddodiadol
Cân werin draddodiadol Gymreig, mae'r gân yn llawenhau am y goeden celyn.
 
Ar lan y môr -  traddodiadol
Cân werin draddodiadol Gymreig. Mae'n gân serch.
 
Rownd yr horn - traddodiadol
Mae hwn yn sianti môr draddodiadol a genir ar fwrdd sgwneri Cymraeg a helwyr morfilod De Georgia, sydd yn aml yn cymryd ar griwiau yng Nghymru.

Croeso Nôl!

Gobeithio eich bod i gyd wedi cael toriad dymunol a’ch bod wedi adfywio ac yn edrych ymlaen at tymor brysur arall o’ch blaen.

 

Rydym am gasglu gwybodaeth ynghylch sut mae'n hadnoddau yn cael eu rhoi ar waith ar draws Cymru (a thu hwnt). Byddem yn dra diolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg byr yma ar-lein (dim ond 7 cwestiwn) i'n cynorthwyo i ffocysu ar beth sydd o gymorth mwyaf ichi.   Saesneg: https://www.surveymonkey.com/r/YRHW653

Diolch yn fawr ichi am eich cefnogaeth barhaus!

Suzanne (a thîm CânSing)

 

 

 

 

 

Diwrnod Cenedlaethol CânSing 2015

Wrth inni edrych ymlaen at ein pumed Diwrnod Cenedlaethol CânSing Day ar ddydd Iau 25ain  Mehefin - mae'r amserlen ar gyfer ein tîm yn brysurach nag erioed! Rydym yn ddiolchgar iawn i'r holl ysgolion hynny sydd yn cynnal digwyddiadau, bach a mawr, ar draws Cymru i helpu gyda'r dathliadau ac i godi proffil ein prosiect. Ar hyn o bryd byddwn yn cefnogi 12 o ddigwyddiadau ar draws 6 sir; Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Y digwyddiad mwyaf mae'n debyg fydd ein digwyddiad yn Neuadd William Aston, Wrecsam (mewn partneriaeth gydag Opera Cenedlaethol Cymru a Gwasanaeth Cerdd Wrecsam); bydd tros 700 o ddisgyblion o 18 ysgol yn dod ynghyd am ddiwrnod cyfan o ganu ble cânt gyfle i ganu ein "Gweddi Hwyrol" newydd gyda'r unawdydd Soprano Zoë Milton-Brown a'r pianydd Helen Woods.

 

Ymddiheuriadau i'r rhai hynny wnaeth gais am Animateur am y dydd ond a fu'n aflwyddiannus y tro hwn - tîm bach iawn sydd gennym ni ac mae hi'n gryn dipyn o her eu symud o amgylch Cymru ar y dydd!

 

Trydar: ein prif hashnod eleni yw #DCSD2015. Defnyddiwch hwn os gwelwch yn dda i ddangos faint o weithgareddau CânSing sy'n digwydd ar draws Cymru. Rydym ni hefyd yn eich gwahodd i rannu eich #SingingSelfie/#HunlunCanu - (drwy drydar neu ddanfon e-bost atom), ac fe gaiff y rhain eu cynnwys yn ein rhifyn arbennig o'r bwletin! 

 

Rydym am gasglu gwybodaeth ynghylch sut mae'n hadnoddau yn cael eu rhoi ar waith ar draws Cymru (a thu hwnt). Byddem yn dra diolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg byr yma ar-lein (dim ond 7 cwestiwn) i'n cynorthwyo i ffocysu ar beth sydd o gymorth mwyaf ichi.  Bydd yr arolwg ar agor tan 17eg Gorffennaf. Saesneg: https://www.surveymonkey.com/r/YRHW653

Cymraeg: https://www.surveymonkey.com/r/YRWWCDX

 

Diolch yn fawr ichi am eich cefnogaeth barhaus - rwy'n edrych ymlaen at weld sut fyddwch chi'n dathlu bod yn rhan o CânSing! 

 

Suzanne (a thîm CânSing)

Ein prif newyddion yw cyhoeddi Diwrnod Cenedlaethol CânSing 2015 ar Ddydd Iau Mehefin 25ain.

Mae tîm cyfan CânSing, gan gynnwys ein 6 Animateur dawnus, yn barod ac yn awchu i weithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol ledled Cymru er mwyn sicrhau fod y 5ed Diwrnod CânSing Cenedlaethol, y mwyaf a'r gorau eto.

Rydym eisoes wedi derbyn ceisiadau am gefnogaeth Diwrnod CânSing gan nifer o ysgolion unigol, clystyrau ac awdurdodau lleol - os hoffech i aelod o'n tîm weithio gyda chi (am ddim!) ar y diwrnod e-bostiwch info@cansing.org.uk cyn gynted â phosib. Gallwn ond gynnig Animateur i nifer cyfyngedig o ddigwyddiadau ar y diwrnod ei hun – felly peidiwch ag oedi!

Edrychaf ymlaen at glywed gennych,

Cadwch ganu!

Suzanne Barnes
Rheolwr Prosiect CânSing

Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn y 4ydd Diwrnod Cenedlaethol CânSing ar ddydd Iau 19fed o Fehefin, 2014.

Rydym yn gwybod bod yna ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal ar draws Cymru, yn fawr a bach. Cafwyd dros 2,000 o drawiadau ar ein gwefan y diwrnod hwnnw - ac mae hynny'n golygu bod miloedd o blant a phobl ifanc wedi gallu cymryd rhan.
 
Rydym wedi coladu'r holl adroddiadau ac wedi cyhoeddi rhifyn arbennig o'r bwletin. (cliciwch ar y cyswllt i lawrlwytho'r bwletin)
  
Hefyd, os ydych yn ymwybodol o unrhyw sylw yn y cyfryngau lleol yr ydym efallai wedi methu - os gwelwch yn dda gadewch i ni wybod.

Unwaith eto, diolch yn fawr am eich cefnogaeth barhaus,

Suzanne
Rheolwr Prosiect CânSing
Bwletin Diwrnod CânSing 2014.pdf
Diwrnod Cenedlaethol CânSing 2014

Rydym yn cynnal ein pedwerydd Diwrnod Cenedlaethol CânSing ar Dydd Iau, 19fed o Fehefin. Mae ysgolion o bob cwr o Gymru sydd wedi bod yn rhan o CânSing yn cael eu hannog i ddathlu eu cyflawniadau ar y diwrnod hwn; gan ddod â disgyblion at ei gilydd ac yn uno lleisiau, drwy ddefnyddio'r adnoddau CânSing . Mae'r rhain ar gael ar www.cansing.org.uk.


Rydym wrth ein bodd bod cymaint o ysgolion yn manteisio ar y cyfle i ddathlu eu gwaith gyda CânSing. Mae'n dangos llwyddiant y prosiect, ac rydym yn hyderus y bydd y profiad yn cael argraff barhaol ar athrawon a phlant, ac yn eu hannog i ddefnyddio eu lleisiau heddiw ac ymhell i'r dyfodol.


Bydd ein tîm o chwech o animateurs yn cymryd rhan mewn nifer o weithdai canu a gweithgareddau ar draws Cymru, gan gynnwys rhai yn Sir Ddinbych, Conwy , Wrecsam , Sir Benfro , Caerdydd , Abertawe a Rhondda Cynon Taf .


I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol CânSing, byddwn yn rhyddhau adnoddau newydd ar y wefan a Phecyn Diwrnod CânSing a chaneuon newydd, gan gynnwys :


• Canon yn D ( arddull Swingle )

• Pererin Wyf

• Y Gelynnen – Alaw werin Gymreig


Hefyd fe fydd CânSing mewn partneriaeth gydag Opera Cenedlaethol Cymru , yn lansio fersiwn addysgol tairieithog ( Ffrangeg , Cymraeg a Saesneg ) o ' Cân y Toreador ', allan o’r opera Carmen gan Bizet. Bydd yn cael ei berfformio am y tro cyntaf ar Ddiwrnod Cenedlaethol CânSing gyda’r perfformiad cyntaf yn cael ei gynnal mewn perfformiad gydag ysgolion Wrecsam ar y cyd gyda unawdydd opera proffesiynol.


Am fwy o wybodaeth am CânSing, neu i ddarganfod mwy am ddathliadau lleol, anfonwch e-bost at suzanne.barnes@continyou.org.uk.

Dymuniadau gorau,


Suzanne Barnes ,

Rheolwr Prosiect CânSing

 

Mae manylion diwrnod Hyfforddiant Cerddoriaeth a Llythrennedd CânSing yn Ne Cymru (11/06/2014) ar gael ar y cyswllt isod:

CERDDORIAETH A LLYTHRENNEDD MEHEFIN 2014.jpg

 

Diwrnod CânSing

 

19 fed o Fehefin, 2014.

Blwyddyn Newydd Dda

Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!


COFIWCH


Mae yna ychydig o lefydd ar ôl ar gyfer Hyfforddiant CânSing ym mis Ionawr.

Ionawr y 9fed - (Abertawe) (cyfrwng Saesneg)

Ionawr y 10fed - (Pontypridd) (cyfrwng Cymraeg)

Mae yr hyfforddiant AM DDIM a rydym yn talu cost llanw i'r ysgolion ar gyfer eich rhyddhau.


Cysylltwch gyda suzanne.barnes@castcymru.org.uk ar gyfer derbyn mwy o fanylion.

Bwletin hydref 2013 Cansing.pdf
Croeso i wefan CânSing

Rydym wedi bod yn recordio caneuon newydd a ffilmio clipiau fideo tiwtorial newydd sydd wedi cael eu hanelu at yr athrawon. Yr wyf yn gobeithio y byddwch yn mwynhau defnyddio ein hadnoddau Nadolig newydd. Os gwelwch yn dda a wnewch chi rannu recordiadau o eich ysgol / côr / grŷp yn perfformio rhai o’r adnoddau yma, byddem wrth ein bodd yn ychwanegu'r rhain at ein gwefan.


Eleni, bydd 200 o ysgolion yn cymryd rhan yn hyfforddiant CânSing - ac rydym wedi cyflwyno nifer o ddiwrnodau hyfforddiant eisoes y tymor hwn ac eraill yn y broses o gael eu cynllunio. Os ydych yn gwybod am unrhyw ysgol sydd heb gymryd rhan hyd yma gyda CânSing - mae croeso i chi gysylltu â ni.


Nid oes amheuaeth y bydd llawer ohonoch wedi darllen yr adroddiad a'r argymhellion a gyhoeddwyd yn ddiweddar sef  y ddogfen ‘Adolygiad o’r Celfyddydau ym myd Addysg". Rydym yn falch o weld bod prosiect CânSing a grybwyllir mor gadarnhaol ac yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn ein helpu i ddangos faint o athrawon yn defnyddio'r adnoddau a'r hyfforddiant a gynigir drwy'r rhaglen.


 Os ydych am gysylltu â mi, e-bostiwch suzanne.barnes@castcymru.org.uk


Cofion cynnes


Suzanne


Bwletin hydref 2013 Cansing.pdf