Gobeithio eich bod i gyd wedi cael toriad haf dymunol a’ch bod wedi adfywio ac yn edrych ymlaen at flwyddyn brysur arall o’ch blaen.

Ers y cyhoeddiad o arian ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru tuag at CânSing (hyd Fawrth 2012) buom yn prysur ddethol deunydd newydd ar gyfer y Banc Caneuon. Diolch yn fawr i’r rhai ohonoch gysylltodd gydag awgrymiadau, gwnaethom ein gorau i ymateb i’r adborth a roddwyd a bellach rydym wrthi’n trefnu a recordio’r traciau newydd hyn a byddant ar gael ar y wefan cyn gynted a phosibl.

Rydym hefyd yn gweithio tuag at recriwtio’r clwstwr newydd o ysgolion i gymryd rhan yn y rhaglen hyfforddi. Byddwn yn trafod y cynlluniau hyn gyda’r Darparwyr Gwasanaeth Cerdd a’r Cynghorwyr Cwricwlwm Cerdd, felly os yr hoffech i’ch ysgol fod ynghlwm cysylltwch gyda’ch partneriaid lleol a gadael iddynt wybod yr hoffech gymryd rhan.

Dymuniadau gorau am flwyddyn lwyddiannus a soniarus!

 

Suzanne Barnes

 Rheolwr Prosiect 

Hyfryd yw gallu cadarnhau bod Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi cytuno I gefnogi CânSing i’r flwyddyn academaidd nesaf. Fel y gwyddoch, bu CânSing yn brosiect peilot, ac mae’r cyhoeddiad hwn yn ddiwedd dwy flynedd o waith caled a chasglwyd stôr o dystiolaeth o weithio gydag athrawon ledled Cymru.

Mae cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru yn gam cadarnhaol iawn ar gyfer y rhaglen CânSing ac mae’n sicrhau y bydd adnoddau ar lein yn dal ar gael hyd at o leiaf fis Mawrth 2012. Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi i fwy o ysgolion dderbyn y pecyn cefnogi CânSing llawn ac i lawer dderbyn hyfforddiant ‘adfywiol’, gan amlygu  deunyddiau a thechnegau newydd i’r rhai sydd eisoes wedi cyfranogi yn y peilot gan sicrhau nad yw momentwm yn cael ei golli.

Byddwn yn dal i gasglu tystiolaeth o lwyddiant y rhaglen a defnyddio hyn i helpu i sicrhau dyfodol hir dymor mwy sefydlog i CânSing. Yn y cyfamser, rwyf yn bersonol

eisiau llongyfarch pawb fu ynghlwm â sicrhau’r ariannu hwn.

Dymuniadau gorau am haf braf a soniarus!

 

Suzanne Barnes,

Rheolwr Prosiect

CânSing, ContinYou Cymru

 

 

Mae pobl ifanc rhwng 11 ac 19 oed o Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer cystadleuaeth ‘Next Brit Thing’ - cystadleuaeth gerddoriaeth genedlaethol fawr newydd.  Mae’r gystadleuaeth gyffrous hon yn cael ei noddi gan y diwydiant cerddoriaeth yn y DU a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan.  Mae’r gystadleuaeth yn agored i bobl ifanc rhwng 11 ac 19 oed sy’n berfformwyr neu’n gyfansoddwyr a gallant berfformio unrhyw fath o gerddoriaeth.  Mae llu o wobrau a chyfleoedd ar gael yn sgil y gystadleuaeth hon gan gynnwys cymorth a chyfarwyddyd gan gerddorion ac awduron caneuon proffesiynol.  Bydd modd i’r  cystadleuwyr fynychu tiwtorialau a bydd adnoddau ar gael i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau ac i archwilio gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol hefyd.  Mae’r broses gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth wedi agor ac mae modd gwneud hynny ar wefan http://www.nextbritthing.com/.  O fis Medi ymlaen, gall y cystadleuwyr gyflwyno fideo neu dâp sain o’u perfformiad a bydd eu hymgais yn cael ei hasesu gan eu cyd-berfformwyr.  Bydd y cystadleuwyr gorau a mwyaf poblogaidd yn mynd ymlaen i’r rowndiau terfynol rhanbarthol a gynhelir ym mis Tachwedd 2011.  Daw’r gystadleuaeth i ben gyda rownd derfynol y DU a gynhelir ddechrau 2012. 

 

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i:

 

hello@nextbritthing.com

Twitter:@nextbritthing

A hoffech chi ychwanegu’ch llais at sain wefreiddiol côr enfawr sy’n codi i’r entrychion yn un o dai opera gorau’r byd, yn canu rhai o’r darnau cerddorol gorau a gyfansoddwyd erioed, dan faton arweinydd ysbrydoledig?  Neu, efallai mai gwrando yn unig fyddai eich dewis?

 Dyma’r cyfle  i chi gymryd rhan yn Mega Meseia yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sul, Tachwedd 6, 2011. Bydd yr achlysur un diwrnod uchelgeisiol hwn yn casglu mil o gantorion i berfformio darnau corws y Meseia, campwaith Handel, yn Theatr ysblenydd Donald Gordon. Sêr y dyfodol o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw’r gerddorfa a’r unawdwyr. Arweinir y perfformiad gan David Lawrence, un o arweinwyr corawl gorau y DU, sy’n ymddangos yn rheolaidd ar Songs of Praise.

 Mae tocynnau ar werth nawr a gellir eu harchebu drwy swyddfa docynnau’r Ganolfan wmc.org.uk   (rhif ffôn 029 2063 6464) lle mae gwybodaeth bellach am y digwyddiad ar gael. Cost y tocynnau yw £15 i gantorion neu £12 os archebwch 10 neu fwy (drwy’r ffôn neu wrth y ddesg yn unig), £10 yw tocynnau cynulleidfa.

Cynhelir ymarfer am 1.30 felly gallwch dwymo’r llais a pharatoi ar gyfer y perfformiad gorau posib o’r darn cerddoriaeth corawl gorau yn y byd. Bydd perfformiad y Mega Meseia yn dechrau am 6 yh. Bydd cynigion bwyd yn y Ganolfan a bydd adloniant yn rhad ac am ddim ar lwyfan y Lanfa yn ystod yr egwyl rhwng yr ymarfer a’r perfformiad.

Mae Mega Meseia yn ffordd ardderchog o lansio tymor y Nadolig a chodi buddion i ddwy elusen bwysig. Mae Fairbridge Cymru, rhan o Ymddiriedolaeth y Tywysog (fairbridge.org.uk/wales), yn gweithio gyda phobl ifanc difreintiedig i’w dychwelyd i gymdeithas; mae prosiectau Dysgu a Chyfranogi Canolfan Mileniwm Cymru (wmc.org.uk/support) yn cynnig gweithgareddau celfyddydol i filoedd o bobl ar draws Cymru.

A fyddech cystal â throsglwyddo hwn at aelodau unrhyw gorau rydych ynghlwm â nhw neu unrhyw un sydd wrth ei (b)fodd yn canu neu’n gwrando ar gerddoriaeth wych? Diolch.

Gyda dymuniadau gorau.

Following this link to see a full copy of the English Evaluation Report for the CânSing project.

   

 
http://www.continyou.org.uk/wales_cymru/CanSing/cansing_evaluation_-_final_report_july_2011
 

Dilynwch y cyswllt canlynol er mwyn gweld copi llawn o Adroddiad Gwerthusiad project CânSing.

  

 http://www.continyou.org.uk/cymru_wales/cansing/gwerthusiad_cansing_-_adroddiad_terfynol_gorffennaf_2011 

Diolch yn fawr i bawb wnaeth gymryd rhan yn ein Diwrnod Cenedlaethol CânSing cyntaf ar yr 21ain o Fehefin! Mi wnaeth miloedd o blant a phobl ifanc gymryd rhan; rydym eisioes yn ymwybodol o ddigwyddiadau yng Nghonwy, Dinbych, Wrecsam, Caerffili, Caerdydd, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin a Nedd Port Talbot, ac wrthi'n casglu adroddiadau o'r digwyddiadau yma, ac eraill, i'w rhannu a chi mewn rhifyn arbennig o'r bwletin a fydd yn cael ei ryddhau'n fuan. Er mwyn i ni allu rhannu'ch llwyddiannau, e-bostiwch eich adroddiadau ac unrhyw luniau neu ddeunydd sydd gennych ar ffilm i suzanne.barnes@conyinyou.org.uk.
 
Rydym hefyd yn bles iawn gyda'r darllediadau cyfryngol a gafwyd, yn nodedig felly, eitemau ar
 
BBC Radio Cymru ( http://www.bbc.co.uk/i/b0121lg7/  19 munud i fewn),
BBC Radio Wales (http://www.bbc.co.uk/i/b011jw75/ - 37 munud i fewn i'r darllediad) 
Newyddion S4C am 19.30 (http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9510000/newsid_9519100/9519179.stm).
 
Os ydych yn ymwybodol o unrhyw gynrychiolaeth arall a gafwyd yn y papurau Cenedlaethol neu leol, rhowch wybod, gan ei fod yn bosib nad ydym yn ymwybodol o'r holl adroddiadau, yn enwedig yn y papurau lleol.
 
Unwaith eto, diolch o waelod calon i bawb a sicrhaodd fod Diwrnod Cenedlaethol CânSing yn gymaint o lwyddiant, yn enwedig ein 5 Animateur. Gadewch i ni ond obeithio y bydd y cyntaf o lawer mwy i ddod!
 
Suzanne Barnes
Rheolwr  Prosiect

Fel y gwyddoch, mae rhaglen beilot CânSing wedi bod yn destun gwerthusiad annibynnol yn ddiweddar. Comisiynwyd yr Uned Pobol a Gwaith (PWU) i gyflawni'r dasg ac fe wnaethpwyd hyn gyda brwdfrydedd a phroffesiynoldeb.

Mae canlyniadau'r gwerthusiad yn galonogol iawn. Casgliad yr Uned Pobol a Gwaith oedd :

Dynododd 91% o’r athrawon a gymrodd ran yn sesiynau hyfforddiant y peilot eu bod yn disgwyl y byddai’r arweinlyfr yn cael effaith gadarnhaol ar eu dysgu ac ar addysg y disgyblion. Soniodd nifer o athrawon bod yr arweinlyfr yn hawdd i’w ddefnyddio.

Cytunodd o gwmpas 95% bod cynnwys yr hyfforddiant ar y ddau ddiwrnod hyfforddi yn canolbwyntio’n benodol ar eu hanghenion. Cyhoeddwyd bod elfennau rhyngweithiol llawn hwyl yr hyfforddiant wedi symbylu’r staff.

Dywedodd 90% o’r sawl wnaeth ymateb i’r arolwg eu bod fwy hyderus wrth gyflwyno gweithgareddau canu. Mae’r gwerthusiad yn nodi bod ‘tystiolaeth gref o’i effeithiolrwydd a’i boblogrwydd gydag ysgolion, plant a phobol ifanc o fewn y rhaglen; mae yna ddadl gref, felly, o blaid cynnal y rhaglen.’ Rydym wrth ein bodd â'r canlyniadau hyn, ac mae'n cadarnhau yr hyn yr oeddwn ni fel tîm fu’n gyfrifol am gyflwyno’r rhaglen wedi ei weld a’i brofi ar hyd y cynllun peilot.

Fe ddefnyddion ni'r gwerthusiad fel sail i'n cynnig i’r Adran Addysg a Sgiliau barhau â phrosiect CânSing y tu hwnt i’r cyfnod peilot. Arhoswn yn eiddgar am atebiad gan y Gweinidog a disgwylir hyn yn fuan. Wrth reswm, fe fyddwn yn gwneud datganiad cyn gynted a bo modd, ond, am y tro, gwyliwch y gofod...

Yn y cyfamser, rydym yn cynnal ein Diwrnod Cenedlaethol CânSing cyntaf ar ddydd Mawrth, 21 Mehefin. Ar y dydd hwn, gwahoddir ysgolion a fu'n cymryd rhan yn rhaglen beilot CânSing i ddathlu eu llwyddiannau. Bydd ysgolion ledled Cymru’n dod â disgyblion ynghyd i uno’u lleisiau drwy ddefnyddio adnoddau CânSing.

Rydym wrth ein bodd bod cynifer o ysgolion wedi derbyn y cyfle hwn i ddathlu eu cyflawniadau gyda CânSing. Mae’n arddangos llwyddiant y cynllun peilot, ac rydym yn hyderus bydd y profiad yn gadael argraff ddwys ar athrawon a disgyblion ill dau, a hefyd yn eu hannog i ddefnyddio’u lleisiau, nid yn unig heddiw ond ymhell i'r dyfodol.

Gobeithiwn y bydd Diwrnod Cenedlaethol CânSing yn tyfu'n ddigwyddiad blynyddol fydd yn fodd i ysgolion arddangos eu llwyddiannau. Am ragor o wybodaeth ynglyn â CânSing, neu os hoffech chi wybod rhagor am eich digwyddiadau lleol, ebostiwch suzanne.barnes@continyou.org.uk

.

Diwrnod CânSing Cenedlaethol – dydd Mawrth 21 Mehefin 2011

 

Mae pob un o’r ysgolion gymerodd ran yn rhaglen peilot CânSing yn cael ei gwahodd i gyfranogi mewn diwrnod o ddathlu.

Cynhelir Diwrnod CânSing Cenedlaethol ddydd Mawrth 21 Mehefin 2011 - i gydfynd gyda Diwrnod Cerdd y Byd! Bydd ysgolion gymerodd ran yn y rhaglen yn derbyn e-becyn o ddeunyddiau newydd sbon danlli gan gynnwys caneuon newydd, deunyddiau cefnogi, ymgynhesu, posteri, ayyb a llawer mwy.

Hefyd, hoffem annog pob ysgol i drefnu digwyddiadau i ddathlu eu hymglymiad yn y rhaglen. Cafodd ysgolion drafodaeth eisoes ynglÅ·n â sut gallent ddatblygu’r cynlluniau hyn gan gynnwys sesiynau unigol i ddigwyddiadau clystyrau mwy neu awdurdodau lleol.

Mae’r pump Animateur CânSing ar gael ar y diwrnod i weithio gydag awdurdodau lleol ar gais. Nodwch os gwelwch yn dda y cytunir y rhain ar sail y cyntaf i’r felin, felly cyflwynwch eich ceisiadau drwy ebost yn ddi-oed (suzanne.barnes@continyou.org.uk ) i osgoi siom.

Gobeithiwn drefnu i’r wasg fod yn bresennol yn y gwahanol ddigwyddiadau - gan gynnwys o bosib darllediadau radio a theledu - eto, os byddai gennych ddiddordeb mewn cynnig lle i ddigwyddiad fel hyn gadewch imi wybod cyn gynted a phosibl.

Edrychaf ymlaen at glywed am eich holl ffyrdd llawn dychymyg i ddathlu CânSing!

Gyda dymuniadau gorau

 Suzanne Barnes
Rheolwr Prosiect CânSing

Newyddion diweddaraf

Fel y gwyddoch, prosiect peilot ydyw CânSing, ac rydym wedi comisiynu’r Uned Pobl a Gwaith i werthuso’r rhaglen ac asesu’r effaith mae wedi ei gael. Bydd unrhyw ariannu ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i rolio’r rhaglen ar draws Cymru yn dibynnu ar ganlyniadau’r gwerthusiad annibynnol hwn ac felly mae eich ymglymiad yn hanfodol.

 

Dilynwch y cyswllt isod os gwelwch yn dda a chwblhewch yr arolwg arlein cyn gynted a phosibl:

 

Arolwg arlein ar gyfer staff ysgol (fel athrawon, cyn-orthwyr dysgu, penaethiaid a dirprwy benaethiaid) iaith SAESNEG:

https://www.surveymonkey.com/s/5JYMKRX

 

Arolwg arlein ar gyfer staff ysgol (fel athrawon, cyn-orthwyr dysgu, penaethiaid a dirprwy benaethiaid) iaith CYMRAEG:

https://www.surveymonkey.com/s/8MLLLVG

 

Arolwg arlein ar gyfer awdurdodau (fel cydlynwyr ALl, arweinyddion Gwasanaeth Cerdd) iaith SAESNEG: https://www.surveymonkey.com/s/8DS3JTG

 

Arolwg arlein ar gyfer awdurdodau (fel cydlynwyr ALl, arweinyddion Gwasanaeth Cerdd) iaith CYMRAEG:

https://www.surveymonkey.com/s/LLLJJPX

 

Diolch yn fawr

 

 Rheolwr Prosiect CânSing

Fel y gwyddoch, prosiect peilot ydyw CânSing, ac rydym wedi comisiynu’r Uned Pobl a Gwaith i werthuso’r rhaglen ac asesu’r effaith mae wedi ei gael. Bydd unrhyw ariannu ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i rolio’r rhaglen ar draws Cymru yn dibynnu ar ganlyniadau’r gwerthusiad annibynnol hwn ac felly mae eich ymglymiad yn hanfodol.

Dilynwch y cyswllt isod os gwelwch yn dda a chwblhewch yr arolwg arlein cyn gynted a phosibl:

Arolwg arlein ar gyfer staff ysgol (fel athrawon, cyn-orthwyr dysgu, penaethiaid a dirprwy benaethiaid) iaith SAESNEG:

https://www.surveymonkey.com/s/5JYMKRX

Arolwg arlein ar gyfer staff ysgol (fel athrawon, cyn-orthwyr dysgu, penaethiaid a dirprwy benaethiaid) iaith CYMRAEG:

https://www.surveymonkey.com/s/8MLLLVG

Arolwg arlein ar gyfer awdurdodau (fel cydlynwyr ALl, arweinyddion Gwasanaeth Cerdd) iaith SAESNEG: https://www.surveymonkey.com/s/8DS3JTG

Arolwg arlein ar gyfer awdurdodau (fel cydlynwyr ALl, arweinyddion Gwasanaeth Cerdd) iaith CYMRAEG: https://www.surveymonkey.com/s/LLLJJPX

 

Diolch yn fawr

 

Suzanne Barnes

Rheolwr Prosiect CânSing