Croeso nôl! 

Rwy'n gobeithio eich bod wedi cael gwyliau haf pleserus ac yn barod ar gyfer y tymor newydd sydd o'ch blaen.
 
Rydym wedi bod yn brysur iawn yn paratoi deunyddiau CânSing newydd i chi a gwneud cynlluniau ar gyfer y cyfnod nesaf o gyflwyno dyddiau hyfforddiant.
 
Dros y misoedd nesaf byddwn yn gweithio gyda chlystyrau yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam, Conwy, Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a'r Fro. Diolch i'r rhai ohonoch sydd wedi  enwebu ysgolion i gymryd rhan.
 
Bydd ein caneuon newydd yn cael ei ryddhau yn fuan, ac i gefnogi hyn byddwn yn cynnal rhai sesiynau hyfforddi gyda'r hwyr. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu un o'r sesiynau hyn, cysylltwch drwy ebost info@cansing.org.uk

 
Dymuniadau gorau
 
Suzanne
 
Rheolwr Prosiect CânSing

Unwaith eto eleni, roedd 21 Mehefin yn ddiwrnod prysur iawn i dîm CânSing, ac nid yw’r rhifyn hwn ond yn cyfeirio at rai o’r digwyddiadau a gynhaliwyd mewn ysgolion ledled Cymru.


Aeth ein holl animateurs i ymweld â digwyddiadau – o Wrecsam i Geredigion, ac o Gaerdydd i Wrecsam. Cefais innau fynd i ddau ddigwyddiad – yn Ysgol Bryn Elian yng Nghonwy gydag Elin Llwyd yn y bore, ac yn Ysgol Rhosesni gyda Jenny Pearson yn Wrecsam ar ôl cinio. Dangosai’r naill ddigwyddiad a’r llall, a oedd yn cynnwys dros 100 o blant ysgol gynradd, y gwaith gwych a wnaed gan bawb a gymerodd ran. Roedd y digwyddiadau hefyd yn dystiolaeth gref o werth y rhaglen. Cafwyd llawer o ohebiaeth gadarnhaol yn y wasg, gan gynnwys cyfweliad hir ag Emma Cavendar-Morris (Pennaeth Cerddoriaeth yn Ysgol Gyfun Tredegar) a minnau ar raglen Roy Noble ar BBC Radio Wales . Roedd Emma yn llawn canmoliaeth wrth sôn am y prosiect, ac yn enwedig wrth sôn am Osian Rowlands, a ddaeth i’w hysgol ar y diwrnod i’w helpu i baratoi am gyngerdd mawr CânSing!


Ar nodyn mwy personol, mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig i mi. Mae’n hawdd i’r rhai hynny ohonom ni sy’n gweithio ‘y tu ôl i’r llenni’ anghofio am effaith ein gwaith ar blant, pobl ifanc ac athrawon. Mae gweld, a chlywed, y digwyddiadau hyn o lygad y ffynnon yn ein hatgoffa pam ein bod ni i gyd yn gweithio mor galed, a pham ei bod hi’n hanfodol parhau â’n gwaith er mwyn sicrhau bod CânSing yn cefnogi ysgolion a disgyblion ymhell i’r dyfodol. Dymunaf seibiant braf i bob un ohonoch dros yr haf, ond ni fydd tîm CânSing yn cael cyfle i orffwys. Byddwn yn gweithio ar ychwanegiadau newydd i’r Banc Caneuon, ac ar gynlluniau ar gyfer amserlen hyfforddi’r flwyddyn academaidd newydd. Pob dymuniad da a diolch am barhau i’n cefnogi!


Suzanne Barnes

Rheolwr Prosiect CânSing

 

 

Dyma gopi o Fwletin mis Gorffennaf 2012 http://www.continyou.org.uk/wales_cymru/resources/files/can-sing-bulletin-welsh-july

 

Fel y gwyddochrydym yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol CânSing ar ddydd Iau, Mehefin 21ain, gyda gweithgareddau mawr a bach yn digwydd ar hyd a lled Cymru.
 
I gefnogi'r digwyddiadau hyn rydym wedi rhyddhau 4 o ganeuon newydd : -
• 'Ystyria dyhun' - Lionel Bart (Oliver)
• ‘Moliannwn’ - Alaw werin Gymreig

•'Hei, ti’n cŷl' - Robat Arwyn.
• 'Os oes gen ti gân' Cyfansoddiad newydd gan y cyfansoddwr Owain Llwyd Cymru a geiriau gan Meirion MacIntyre Huws (Bardd Plant Cymru, 2001)


Mae gennym hefyd ddeunydd cymorth ychwanegol gan gynnwys templedposter, datganiad i'r wasg, deg uchaf awgrym gan ein tîm.
 
Rydym yn gobeithio am sylw yn y cyfryngau gwahanol yn ystod y dydd, gan gynnwys cyfweliad ar raglen Roy Noble ar BBC Radio Wales. Rydym yn edrych ymlaen at glywed popeth am eich digwyddiadau, mawr neu fach, byddwn yn cyhoeddi rhifyn arbennig o'n bwletin CânSing ag adroddiadau o bob cwr o Gymru - felly beth am gynnwys manylion eich dathliad?
 
Dymuniadau Gorau
 
Suzanne

 Byddwn yn cynnal Diwrnod Cenedlaethol CânSing am yr ail waith ddydd Iau, 21 Mehefin. Estynnir gwahoddiad i’r holl ysgolion sy’n ymwneud â phrosiect CânSing i ddathlu eu cyflawniadau ar y diwrnod hwn.

Rydym wrth ein bodd fod ysgolion ledled Cymru eisoes yn cynllunio i fanteisio ar y cyfle hwn i ddod â disgyblion ynghyd, i uno lleisiau ac i ddathlu’r hyn y maent wedi’i gyflawni drwy ddefnyddio adnoddau CânSing (yn www.cansing.org.uk).

Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn arddangos llwyddiant prosiect CânSing. Hyderwn y bydd y profiad yn creu argraff barhaol ar yr athrawon a’r plant fel ei gilydd, ac yn eu hannog i ddefnyddio’u lleisiau heddiw ac ymhell i’r dyfodol. 

Adnoddau newydd

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol CânSing, byddwn yn rhyddhau adnoddau newydd ar y wefan, ynghyd â Phecyn Diwrnod CânSing.

Dyma’r caneuon newydd:

‘Ystyria dy hun’ – Lionel Bart (Oliver)

‘Moliannwn’ – Cân Werin Gymreig

‘Hei, ti'n cwl’ – Robat Arwyn.

Eleni, rydym wedi comisiynu’r cyfansoddwr o Gymro, Owain Llwyd a Meirion MacIntyre Huws (Bardd Plant Cymru, 2001) i gyfansoddi cân i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol CânSing. Enw’r gân ddwyieithog hon yw ‘Os oes gen ti gân’.


 

 

Rydym yn hapus iawn i allu cyhoeddi bod tair cân newydd a chyffrous nawr ar gael ar wefan CânSing, sef:

- Yn Gefn i Mi

- Rhywbeth tu mewn

- Lawr ar lan y Môr

Gobeithio y cewch chi hwyl yn dysgu ac arbrofi gyda’r deunydd newydd yma!

 

Cofiwch y dyddiad!

Diwrnod Cenedlaethol

CânSing

Eisioes, rydym wrthi’n trefnu ein hail Diwrnod Cenedlaethol CânSing a gynhelir ar Ddydd Iau, yr 21ain o Fehefin 2012.

Yn union fel y llynedd, bydd pob un o bum animateurs CânSing ar gael i gefnogi ysgolion ar y diwrnod hwnnw.

Yn enwedig, hoffwn gefnogi ysgolion clwstwr sy’n dymuno cynnal dyddiau pontio ac yn dymuno cael help gan animateur.

Os hoffech chi gael animateur i fynychu eich hysgol ar yr 21ain o Fehefin, os gwelwch yn dda gadewch i ni wybod cyn gynted â phosib drwy ebostio info@cansing.org.uk.

Mae gennym gynlluniau i gynhyrchu ychydig o adnoddau newydd ar gyfer gwefan CânSing, ac rydym yn dymuno darganfod beth fyddwch chi yn hoffi gweld! Crëwyd holiadur arlein gennym i gipio eich sylwadau. A fyddwch cystal â threulio pum munud i gwblhau’r holiadur hwn - gellir canfod y ddolen yma http://www.surveymonkey.com/s/D9FZYFD

Y dyddiad cau yw’r 20fed o Chwefror.

Yn ogystal, rydym yn awyddus i ddarganfod beth mae pobl ifanc yn ei feddwl am ein Banc Caneuon a’n hymarferion. Felly, hoffwn gychwyn ychydig o grwpiau ffocws

gyda disgyblion. Os oes gennych grwp fyddai’n hoffi dylanwadu ar ba ddeunyddiau caiff eu hychwanegu at wefan CânSing, ebostiwch info@cansing.org.uk.

Yn olaf, hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i chi i gyd am eich holl gefnogaeth parhaol i CânSing. Cawsom ein synnu â’r adborth gadarnhaol a dderbyniwyd hyd yn hyn – cymaint, felly, ein bod yn ychwanegu adran i’r wefan fel bod modd i bawb weld eich sylwadau. Os gwelwch yn dda, parhewch i’w hanfon atom!

Heddiw, cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, £250,000 ar gyfer ymestyn rhaglen arloesol i hyrwyddo canu mewn ysgolion am flwyddyn arall.

Cafodd y rhaglen CânSing ei chyflwyno yn 2009 i helpu plant ysgol i ddechrau canu, fel rhan o weithgareddau sy’n gysylltiedig â chwricwlwm yr ysgol, yn ogystal ag y tu allan i wersi.

Mae’r rhaglen wedi darparu hyfforddiant, cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer hyrwyddo canu, ac i dynnu sylw at y manteision sy’n gysylltiedig â chanu, i fwy na 500 o ysgolion yng Nghymru. Erbyn mis Mawrth 2012, bydd 140 o ysgolion eraill yn cael y cyfle i gymryd rhan.

Mae ymateb yr ysgolion i’r rhaglen wedi bod yn gadarnhaol. Daeth asesiad annibynnol ohoni i’r casgliad ei bod yn rhoi hyder i’r athrawon a oedd yn cynnal y gweithgareddau ac i’r plant a’r bobl ifanc a oedd yn cymryd rhan ynddynt, ac yn eu hysgogi.

Yn sgil cynnal y rhaglen hefyd, roedd llythrennedd a sgiliau iaith wedi gwella mewn ysgolion. Llwyddodd y rhaglen i ennyn diddordeb bechgyn, sy’n gallu bod yn amharod i gymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath, yn ogystal â phlant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig. 

Mae gwefan CânSing yn boblogaidd iawn ymhlith ysgolion, ac mae’n derbyn mwy na 15,000 o drawiadau'r mis ar gyfartaledd.

Bydd yr arian newydd yn sicrhau bod modd cynnig rhaglen gymorth arall i fwy na 250 o ysgolion tan fis Mawrth 2013.

Dywedodd Mr Andrews:

“Mae magu hyder yn rhan bwysig o brofiad addysgol plant a phobl ifanc. Drwy’r rhaglen CânSing, rydyn ni’n gobeithio sicrhau bod plant a’r gymuned ehangach yn cymryd rhan ym mywyd yr ysgol, eu hysgogi, a gwella eu profiadau.

“Rwy’n falch bod y rhaglen hon yn cael effaith gadarnhaol mewn ysgolion. Fel Gweinidog Addysg, mae gwella sgiliau llythrennedd yn un o’m prif flaenoriaethau i. O ganlyniad, mae’r canfyddiadau sy’n dangos bod y cynllun yn gwella lefelau llythrennedd yr unigolion sy’n cymryd rhan ynddo yn destun calondid i mi.  

“Bydd yr arian dw i wedi’i gyhoeddi heddiw yn caniatáu i’r rhaglen barhau am flwyddyn arall, ac yn sicrhau bod mwy o ysgolion a disgyblion yn gallu elwa arni o hyd”.

Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â’r elusen ContinYou Cymru, sy’n gweithio gydag awdurdodau lleol. Mae wedi’i thargedu at ddisgyblion ym Mlynyddoedd 5, 6 a 7 yn bennaf.

Dywedodd Suzanne Barnes, Rheolwr Prosiect CânSing:

“Rydyn ni wrth ein boddau fod y Gweinidog Addysg wedi cydnabod yr hyn y mae CânSing wedi’i gyflawni hyd yma, a’i fod wedi cytuno i gefnogi’r rhaglen am flwyddyn arall.   

“Mae’r clod y mae’r rhaglen wedi’i dderbyn wedi bod yn destun calondid i ni, ac mae’n newyddion gwych bod llawer mwy o ddisgyblion nawr yn mynd i allu elwa ar hyn.”

Caneuon newydd

 

Bum yn gweithio’n ddygn y nStiwdio’r Aran (Caernarfon) gydag Emyr Rhys , yn recordio’r caneuon newydd. Mewn ymateb i’r adborth, buom yn cynhyrchu ychydig o draciau tymhorol i  hi gael cynnig arnynt y tymor hwn. Mae’r canlynol eisioes ar gael:

• Cân y bugeiliaid

• Dawel nos

• Noel, noel, noel (ail feistrwyd).

Yn ogystal, gallwch ganfod y caneuon newydd hyn ar wefan CânSing:

• Migldi magldi

• Nodau di ri.

Ac rydym wedi ychwanegu sgriniau rhyngweithiol newydd a thaflenni cymorth i’r caneuon ar gyfer:

• Rap 1, 2, 3

• Cân yr Elfennau

• Cân y canw

• Sgw – bi – dw

• O hyfryd ddydd.

Byddwn yn ychwanegu rhagor o ganeuon yn fuan, felly gwyliwch am :

• Sigla fi Iôr

• O re mi

• Yn gefn i mi

• Rhywbeth tu mewn yn awr.

 

Yn olaf, dymunaf Nadolig Llawen iawn i bob un ohonoch chi. Da chi, rhowch wybod i ni sut yr ydych yn defnyddio’n hadnoddau. Hoffwn i glywed gennych, yn arbennig felly os ydych chi’n defnyddio ein deunydd newydd, efallai yn eich sioe Nadolig/drama geni yn yr ysgol!

 

Nadolig Llawen i chi gyd!

 

Suzanne Barnes,

Rheolwraig Prosiect CânSing