Cyfarfod y Tîm
Jenny Pearson
jenny.pearson@cansing.org.uk- Daw Jenny'n wreiddiol o ardal yr Wyddgrug yng Ngogledd Cymru, ac mae ganddi dair blynedd ar ddeg o brofiad o weithio gyda phobl ifanc ac oedolion fel athrawes canu, arweinydd gweithdai mewn prosiectau cymunedol a theatr/cerdd, ac fel arweinydd corawl.
- Mae Jenny'n perfformio ar raddfa ryngwladol fel unawdydd mezzo soprano proffesiynol ac fel aelod o gôr.
- Mae Jenny'n frwdfrydig ac yn angerddol ynglyn â'r effaith gadarnhaol y gall canu ei chael ar fywyd rhywun ifanc ac wrth ei bodd yn cael cyfle i helpu i drosglwyddo sgiliau canu da a boddhaus mewn awyrgylch hapus a diogel.
- Mae Jenny yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.
