Cyfarfod y Tîm

Jennifer Walker

jenny.walker@cansing.org.uk
  • Ganed Jennifer yn Birmingham a graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda'r anrhydedd uchaf bosibl ym mis Gorffennaf 2006. Wedi hynny cwblhaodd radd Meistr mewn perfformio yn y Coleg.
  • Mae Jennifer wedi ymddangos fel unawdydd yn nifer o brif leoliadau cyngerdd y DU, ac wedi recordio amryw o unawdau ar gyfer BBC Radio 3. Mae ei rolau opera'n cynnwys y rôl deitl yn y perfformiad cyntaf erioed o The Tailor's Daughter gan Brian Irvine ar gyfer Cwmni Ieuenctid Opera Cenedlaethol Cymru, y rôl deitl yng nghynhyrchiad Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o Cendrillon (Massanet) a Micaela (Carmen- Bizet) ar gyfer y Lyric Musical Society. Yn ddiweddar bu'n perfformio rôl Denise (Veronique - Messager) yng Ngwyl Opera Buxton, Offeren Nelson Haydn gyda Cherddorfa Symffoni Lloegr a chyfres o gyngherddau ar gyfer Live Music Now!
  • Fel animateur, mae Jennifer wedi bod yn weithgar iawn mewn prosiectau ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru - o gyfansoddi caneuon i berfformiad wedi'i lwyfannu'n llawn. Mae hi wrth ei bodd yn cael ymuno â'r tîm ar gyfer prosiect CânSing.
Jennifer Walker
<< Nôl