Cyfarfod y Tîm

Aled Powys Williams

aled.williams@cansing.org.uk

Mae Aled yn animateur lleisiol ac wedi bod yn rhan o dîm CânSing ers 2012.

Yn frodorol o Ddyffryn Aman, graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw dyfarnwyd nifer o ysgoloriaethau iddo.

Mae Aled yn Enillydd Gwobr Brit Clasurol ac yn gyn-aelod o Only Men Aloud a enillodd gystadleuaeth Last Choir Standing y BBC, mae ganddo hefyd nifer o gyhoeddiadau albwm llwyddiannus.

Mae wedi teithio’n helaeth ar draws y DU, Ewrop ac America. Mae ei amryddawn lleisiol wedi ei arwain i berfformio oratorio, opera drwodd i theatr gerdd, swing a jazz. Mae ei waith theatr yn cynnwys Dan Cairo yn Carmen (Theatr Dolman); Billy yn The Calling of Maisy Day (Canolfan Mileniwm Cymru): Dewi yn The Hidden Valley (San Siôr, Bryste); Godfrey yn The Archaeologist’s Wife (Theatr Bute); Iesu yn Godspell (Theatr Blakehay); Morgan James yn My Land’s Shore (Rose and Crown Theatre): Prince Charming yn Cinderella (Theatr Camberley): Aladdin yn Aladdin (Theatr Glan yr Afon).

Ymhlith ei gredydau radio a theledu mae Friday Night is Music Night, Later...gyda Jools Holland, Last Night at the Proms a Noson Lawen. Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys perfformio yn y Royal Variety Performance (London Palladium), y Gala Agoriadol (Canolfan Mileniwm Cymru), Cyngerdd Agoriadol Cwpan Ryder 2010 (Stadiwm y Mileniwm) a pherfformio ochr yn ochr â Michael Sheen yn y Premiere Byd o ‘Mr. Dahl’ (Neuadd Dewi Sant), comisiwn arbennig i ddathlu bywyd y nofelydd Cymraeg. Yn fwyaf diweddar, mae wedi bod ar daith gyda'r pedwarawd lleisiol The 4Tunes.

Ochr yn ochr â’i berfformio, mae Aled yn animateur lleisiol medrus ac yn arweinydd corawl. Mae wedi gweithio’n helaeth i sefydliadau amrywiol megis British Council, The Aloud Charity, ABC of Opera, CaST Cymru, BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'r prosiectau'n amrywio o ysgrifennu caneuon, gweithdai lleisiol i gynyrchiadau wedi'u llwyfannu'n llawn. Cafodd Aled y fraint o arwain Only Boys Aloud ochr yn ochr â Katherine Jenkins ar gyfer diweddglo Gŵyl y Coroni ym Mhalas Buckingham.

Aled Powys Williams
<< Nôl