Cyfarfod y Tîm

Elin Llwyd

elin.llwyd@cansing.org.uk

Graddiodd Elin fel actor o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac mae’n ffodus o fod wedi datblygu gyrfa amrywiol ar lwyfan a sgrin.

Law yn llaw â’i gwaith fel actor a chyflwynydd, mae Elin wedi elwa o brofiadau helaeth fel arweinydd gweithdai ac animateur lleisiol. Mae CânSing yn hawlio cornel arbennig iawn o’i chalon am iddi fod ynghlwm o’r prosiect o’r cychwyn cyntaf, nôl yn 2010.

Mae Elin hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gydag amryw o gwmnïau Celfyddydol arall gan gynnwys The Aloud Charity, Opera Cenedlaethol Cymru, Arts Active a’r Cyngor Prydeinig.

Mae Elin yn angerddol iawn ynghylch pwysigrwydd cynnig profiadau artistig i blant a phobl ifanc Cymru, rhywbeth mae’n llwyddo i wireddu drwy ei hysgol berfformio; ABC (Academi Berfformio Caerdydd), gyda changhennau yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Mae Elin wedi bod wrth ei bodd yn gweld CânSing yn datblygu i ddarparu addysgwyr gydag adnoddau amhrisiadwy i annog ymgysylltu gyda chanu o fewn yr ystafell dosbarth dros y ddegawd ddiwethaf, ac yn teimlo’n gyffrous am yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol!

Elin Llwyd
<< Nôl