Cyfarfod y Tîm

Ruth Evans

ruth.evans@cansing.org.uk

Mae Ruth wedi bod yn rhan o dîm CânSing fel Animateur Lleisiol a Chyfarwyddwr ar gyfer adnoddau CânSing-Opera Cenedlaethol Cymru ers 2013.

Mae hi bellach yn gweithio i Gorau Ieuenctid Cenedlaethol Prydain Fawr (National Youth Choirs of Great Britain) fel Pennaeth Cynllunio Artistig a Chyfranogiad ac mae’n uwch aelod o dimau artistig a rheoli NYCGB. Ymhlith ei rolau blaenorol mae Uwch Reolwr Addysg yn Glyndebourne a Chynhyrchydd (Ieuenctid a Chymuned) yn Opera Cenedlaethol Cymru.

Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, astudiodd Ruth ym Mhrifysgol Rhydychen (gydag ysgoloriaeth gorawl) ac yna enillodd radd Meistr mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor. Yn ogystal â rheolaeth yn y celfyddydau, mae Ruth yn arweinydd corawl ac yn rhan o dimau tiwtoriaid Sing for Pleasure a Morland Choristers’ Camp.

Ruth Evans
<< Nôl