Cyfarfod y Tîm

Suzanne Barnes

Cyfarwyddwr Gweithredol

suzanne.barnes@cansing.org.uk

“Os ydym am gadw enw da Cymru fel ‘Gwlad y Gân’ ni ddylai cerddoriaeth fod yn ddifyrrwch i’r breintiedig!”

Cafodd CânSing ei genhedlu fel gysyniad/prosiect gan Suzanne yn 2008 ac mae hi wedi ei sbarduno ers hynny, er gwaethaf y ffaith NID cerddoriaeth yw ei chefndir yn bendant!

Mae Suzanne yn arweinydd broffesiynol prosiectau a rheoli newid profiadol gyda gradd mewn Astudiaethau Cymunedol ac Ieuenctid a chymwysterau rheoli/arwain amrywiol. Mae ei hegwyddorion wedi’u gwreiddio’n gadarn mewn hawliau plant, ac mae’r rhain yn parhau i fod yn rhan annatod o egwyddorion CânSing, ochr yn ochr â’i chred y dylai pob plentyn, waeth beth fo’i gefndir, gael yr un mynediad at ddarpariaeth o ansawdd uchel.

Mae rôl Suzanne yn y sefydliad wedi esblygu dros amser o Reolwr Prosiect i Gyfarwyddwr Gweithredol CânSing Ltd ac, er ei bod yn llai gweithredol, mae hi wedi cadw’r swydd arweinyddiaeth strategol a’r cyfrifoldeb cyffredinol law yn llaw gyda’r Bwrdd.

Mae hirhoedledd CânSing yn parhau i fod yn un o lwyddiannau gyrfa mwyaf Suzanne hyd yma; yn enwedig llywio’r cwmni “nid-er-elw” hwn drwy’r pandemig Covid (2020 – 22) gan sicrhau ei fod yn parhau er lles holl blant a phobl ifanc Cymru ymhell i’r dyfodol.

Suzanne Barnes
<< Nôl