Am CânSing

Cefndir

Mae CânSing yn sefydliad nid-er-elw. Ariannwyd y prosiect yn wreiddiol gan Llywodraeth Cymru o 2010 - 2014.

Gweledigaeth

Nod cyffredinol y gwaith hwn yw codi proffil a safon canu ledled Cymru drwy ymestyn cyfleoedd a gwella ansawdd y ddarpariaeth a chyflwyniad o fewn ysgolion, cymunedau, teuluoedd, busnesau ac ym mhob man.

Y tair elfen allweddol y rhaglen yw:

  • Adnoddau o ansawdd uchel
  • Hyfforddiant a chefnogaeth i ysgolion
  • Dathlu llwyddiannau

Adnoddau

Mae'r Pecyn Cymorth CânSing yn adnodd hyblyg, datblygiadol a all ddatblygu i ymateb i anghenion defnyddwyr ar draws y sectorau.

Mae Banc Caneuon CânSing yn cynnwys caneuon sydd eisioes yn bodoli a deunydd newydd wedi’u gomisiynu. Mae'r holl ddeunyddiau ac adnoddau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Mae'r adnoddau yn cynnwys :

  • dros 100 o ganeuon gyda sgriniau rhyngweithiol a traciau cefndirol (Banc Caneuon)
  • canllawiau addysgu a dysgu sy’n gysylltiedig i’r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer pob cân (ar gyfer ysgolion)
  • fideos tiwtorial ( Bît bocsio, geirio, ymarferion anadlu)
  • ymarferion cynhesu lleisiol gyda chefnogaeth a sgriniau
  • cysylltiadau i adnoddau defnyddiol eraill (e.e adnoddau Llythrennedd)

Yn 2022, adnewyddwyd adnoddau CânSing i sicrhau addasrwydd technolegol ac addysgegol i ysgolion yng Nghymru, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae holl adnoddau ar gael ar wefan CânSing [www.cansing.org.uk].

Hyfforddiant a Chefnogaeth

Yn ogystal â’r Pecyn Cymorth a Deunyddiau mae tîm CânSing yn darparu hyfforddiant sydd yn cynnwys:

  • Cyflwyniad Sylfaenol i CânSing a sut i ddefnyddio'r adnoddau.
  • Trwy diwrnodau cefnogaeth i glystyrau
  • Cymorth pwrpasol ychwanegol (mewn lleoliad sy'n addas i chi).
  • Hyfforddiant wedi ffocysu ar Lythrennedd / thema

Dathliadau - Diwrnod Cenedlaethol CânSing

Ers 2010 mae dathliad Cenedlaethol CânSing wedi darparu ysgolion, Awdurdodau Lleol a sefydliadau partneriaethol gyda gyfle hanfodol i ddathlu'r hyn a gyflawnwyd drwy weithio gyda CânSing.

Partneriaethau

Mae CânSing yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau, gan gynnwys:

  • Opera Cenedlaethol Cymru
  • Cerddorfa Genedlaethol y BBC a Chorws Cymru
  • CILT Cymru
  • TRAC

Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod darn o waith ar y cyd, e-bostiwch: post@cansing.org.uk

Cyfathrebu

Dylai unrhyw un sy'n dymuno derbyn diweddariadau rheolaidd ar gynnydd y fenter hon gofrestru [post@cansing.org.uk].