Am CânSing
Cefndir
Mae CânSing yn sefydliad nid-er-elw. Ariannwyd y prosiect yn wreiddiol gan Llywodraeth Cymru o 2010 - 2014.
Gweledigaeth
Nod cyffredinol y gwaith hwn yw codi proffil a safon canu ledled Cymru drwy ymestyn cyfleoedd a gwella ansawdd y ddarpariaeth a chyflwyniad o fewn ysgolion, cymunedau, teuluoedd, busnesau ac ym mhob man.
Y tair elfen allweddol y rhaglen yw:
- Adnoddau o ansawdd uchel
 - Hyfforddiant a chefnogaeth i ysgolion
 - Dathlu llwyddiannau
 
Adnoddau
Mae'r Pecyn Cymorth CânSing yn adnodd hyblyg, datblygiadol a all ddatblygu i ymateb i anghenion defnyddwyr ar draws y sectorau.
Mae Banc Caneuon CânSing yn cynnwys caneuon sydd eisioes yn bodoli a deunydd newydd wedi’u gomisiynu. Mae'r holl ddeunyddiau ac adnoddau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Mae'r adnoddau yn cynnwys :
- dros 100 o ganeuon gyda sgriniau rhyngweithiol a traciau cefndirol (Banc Caneuon)
 - canllawiau addysgu a dysgu sy’n gysylltiedig i’r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer pob cân (ar gyfer ysgolion)
 - fideos tiwtorial ( Bît bocsio, geirio, ymarferion anadlu)
 - ymarferion cynhesu lleisiol gyda chefnogaeth a sgriniau
 - cysylltiadau i adnoddau defnyddiol eraill (e.e adnoddau Llythrennedd)
 
Yn 2022, adnewyddwyd adnoddau CânSing i sicrhau addasrwydd technolegol ac addysgegol i ysgolion yng Nghymru, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae holl adnoddau ar gael ar wefan CânSing [www.cansing.org.uk].
Hyfforddiant a Chefnogaeth
Yn ogystal â’r Pecyn Cymorth a Deunyddiau mae tîm CânSing yn darparu hyfforddiant sydd yn cynnwys:
- Cyflwyniad Sylfaenol i CânSing a sut i ddefnyddio'r adnoddau.
 - Trwy diwrnodau cefnogaeth i glystyrau
 - Cymorth pwrpasol ychwanegol (mewn lleoliad sy'n addas i chi).
 - Hyfforddiant wedi ffocysu ar Lythrennedd / thema
 
Dathliadau - Diwrnod Cenedlaethol CânSing
Ers 2010 mae dathliad Cenedlaethol CânSing wedi darparu ysgolion, Awdurdodau Lleol a sefydliadau partneriaethol gyda gyfle hanfodol i ddathlu'r hyn a gyflawnwyd drwy weithio gyda CânSing.
Partneriaethau
Mae CânSing yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau, gan gynnwys:
- Opera Cenedlaethol Cymru
 - Cerddorfa Genedlaethol y BBC a Chorws Cymru
 - CILT Cymru
 - TRAC
 
Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod darn o waith ar y cyd, e-bostiwch: post@cansing.org.uk
Cyfathrebu
Dylai unrhyw un sy'n dymuno derbyn diweddariadau rheolaidd ar gynnydd y fenter hon gofrestru [post@cansing.org.uk].