Dathlwn Dydd Gwyl Dewi trwy gyhoeddi lawnsiad ein DARNAU DATHLU newydd!
Casgliad o ganeuon thematig sy'n cydnabod ac yn hyrwyddo diwylliant cyfoethog a phoblogaeth ieithyddol amrywiol Cymru.
- Dysgwch ein caneuon dathlu Pwyleg, Hebraeg, Hindi a BSL newydd!
- Sgriniau rhyngweithiol ac adnoddau addysgu llawn.
- Cysylltiadau clir i MDPh Cwricwlwm i Gymru a chysylltiadau trawsgwricwlaidd ehangach!
Byddwn yn cyflwyno pob can dros y dyddiau nesaf ond yn y cyfamser, dewiswch y thema 'dathliadau' i agor y casgliad. Gwnaed y casgliad hwn yn bosibl trwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
#CwricwlwmiGymru #CelfyddydauMynegiannol #cerdd #canu #trawsgwricwlaidd #Pwyleg #Hebreig #BSL #Hindi
Mae CânSing yn falch ac yn gyffrous i gyhoeddi lansiad ein hadnoddau llawn rhyngweithiol o Yma o Hyd!
Beth sydd ar gael:
- Sgriniau rhyngweithiol i ddysgu a pherfformio'r gân a chefnogwch Cymru yng Nghwpan y Byd!
- Fidios addysgu a dysgu a fidio perfformiad llawn swyddogol o Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
- Mynediad llawn i Daflenni Cefnogi Cân Athrawon.
- Cysylltiadau clir i MDPh Cwricwlwm i Gymru a chysylltiadau trawsgwricwlaidd ehangach.
Darganfyddwch hanes y gân, yr hinsawdd wleidyddol ar y pryd a sut y daeth yn anthem answyddogol Y Wal Goch!
Crëwyd mewn partneriaeth â Dafydd Iwan, Menter Iaith a Llywodraeth Cymru.
Rydym wrth ein bodd yn lansio ein hadnoddau newydd, wedi'u hadnewyddu, sydd wedi'u cynllunio i gefnogi ysgolion yng Nghymru.
Mae cefnogaeth hollbwysig Llywodraeth Cymru wedi galluogi:
- Trosi ein sgriniau rhyngweithiol i fformat mwy addas a chyfredol i'n galluogi i barhau i'w darparu, heb ffi, i ysgolion a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt.
- Adnewyddu ei’n hadnoddau cefnogaeth a challawiau i athrawon gan sicrhau eu bod yn cefnogi cynllunio, addysgu a dysgu effeithiol a chreadigol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru Newydd.
Yn ogystal, byddwn yn ychwanegu casgliad newydd o ganeuon, fydd yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, yn canolbwyntio ar ehangu amrywiaeth ein cynnwys.
Dilynwch ni ar twitter (@cansingcymru) am fwy o wybodaeth
Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, nid yw Adobe yn cefnogi Flash Player mwyach ac mae wedi rhwystro cynnwys Flash rhag rhedeg yn Flash Player ers dechrau 12 Ionawr 2021 sydd, yn anffodus, wedi effeithio ar ddefnydd adnoddau CânSing, a’n sgriniau rhyngweithiol yn arbennig.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i’n cefnogi i drosi'r deunyddiau hyn i fformat mwy addas a chyfredol i'n galluogi i barhau i'w darparu, heb ffi, i ysgolion a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt.
Yn ogystal, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym hefyd yn gallu adnewyddu ein hadnoddau i sicrhau eu bod yn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru Newydd.
Disgwylir i'r adnoddau newydd hyn gael eu lansio ganol mis Mai mewn pryd i gefnogi eich cynllunio ar gyfer Medi 2022
Dilynwch ni ar twitter (@cansingcymru) am fwy o wybodaeth.
Nodwch na fydd rhai adnoddau ar gael 11/5/22 - 19/5/22.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleuster wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol a diweddaru ein hadnoddau.
Diolch yn fawr am eich amynedd
Suzanne Barnes
Cyfarwyddwr Gweithredol
Sgriniau Newydd!
Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, nid yw Adobe yn cefnogi Flash Player mwyach ac mae wedi rhwystro cynnwys Flash rhag rhedeg yn Flash Player gan ddechrau ar 12 Ionawr 2021 sydd, yn anffodus, yn effeithio ar ymarferoldeb adnoddau CânSing, ac yn arbennig felly y sgriniau rhyngweithiol.
Ers i Adobe gyhoeddi'r penderfyniad hwn, rydym wedi bod wrthi’n archwilio opsiynau posibl eraill i sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddarparu'r sgriniau rhyngweithiol gan ein bod yn gwybod bod y rhain yn adnodd gwerthfawr iawn a bod llawer o bobl yn dibynnu arnyn nhw. Felly, mae’r sgriniau sydd wedi’u creu yn ystod y 2-3 blynedd diwethaf yn defnyddio HTML 5 ac nid yw'r newid yn effeithio ar y rhain, ond yn anffodus, ni fydd y mwyafrif mawr o’r sgriniau gwreiddiol (2010-2015) yn rhedeg yn y mwyafrif o borwyr.
A ninnau’n sefydliad nid er elw, rydym yn edrych ar opsiynau i sicrhau’r cyllid/partneriaeth fusnes angenrheidiol i'n helpu i drosi'r deunyddiau hyn i fformat addas, mwy cyfredol i'n galluogi i barhau i'w darparu, heb ffi, i ysgolion a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt.
Rydym wedi blaenoriaethu diweddaru rhai o'n caneuon mwyaf poblogaidd gan gynnwys:
- Calon Lân
- Hen Wlad Fy Nhadau
- Banuwa
- Cân y Toreador
- Soban Fach
- Cytgan Hymian
- Kye Kye Kule
- Sing Out Loud
- Os Oes Gen Ti Gân
- Ar lan y môr
- De o
- Daw hyfryd fis
Gobeithio y byddwch chi'n mwynhau defnyddio'r sgriniau newydd. Rydym yn gweithio'n galed i drosi gweddill ein hadnoddau cyn gynted â phosibl.
Yn y cyfamser, daliwch ati i ddefnyddio'r adnoddau sydd heb eu heffeithio, gan gynnwys sgoriau a thraciau cefndir (fformat mp3) sydd i gyd ar gael ichi eu lawr lwytho yn rhad ac am ddim.
Diolch yn fawr ichi am eich amynedd a'ch cefnogaeth barhaus,
Suzanne
Suzanne Barnes
Cyfarwyddwr
Hyfforddiant - Cynnig Arbennig!
Dewch i'r DDAU sesiwn am ddim ond £75!
Cyntaf i'r felin
Dydd Mercher 9fed Tach - Ysgol Gynradd Glyncoed, Caerdydd
Mewn ymateb i geisiadau rydym yn cynnig diwrnod llawn o hyfforddiant, wedi ei rannu’n ddau sesiwn, i gwrdd ag anghenion gwahanol (gweler isod):
Cynnig Arbennig: Dewch i'r Ddau sesiwn (1 diwrnod llawn) am ffi ostyngedig o £75
Cyflwynir gan Aled Powys-Williams; canwr proffesiynol (bariton) ac animateur lleisiol profiadol iawn.
Nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar gyfer y ddau sesiwn: e-bostiwch info@cansing.org.uk
__________________________________
Sesiwn 1
Dydd Mercher 9fed Tachwedd
Sesiwn y bore (9am - 12.30pm)
Hyfforddiant CânSing - Sesiwn ymarferol, llawn dop, sy'n addas ar gyfer pob gallu
Addas ar gyfer:
Holl staff dysgu a chymorth - does dim angen unrhyw brofiad cerddorol blaenorol.
Amcanion:
Darparu arweiniad ymarferol ar ddefnyddio adnoddau CânSing mewn ysgolion, gan gynnwys:-
- sut i ddefnyddio banc caneuon ac adnoddau CânSing
- gweithgareddau ymbaratoi (rhythm, y corff, ynganiad, anadlu, lleisiol)
- sefydlu ymarfer da wrth ganu
- canu unsain ac mewn rhannau: galw ac ateb, tiwn gron
- defnyddio ffurfiau gwahanol: bît-bocsio, opera, gwerin
- dolenni i'r Cwricwlwm Cymreig; themâu (Y Nadolig, ABCH)
Byddwch yn derbyn pecyn CânSing a fydd yn cynnwys:-
- Arweinlyfr wedi ei argraffu a detholiad o ganllawiau dysgu
- CD CânSing (detholiad o draciau cefndir)
- USB CânSing sy'n cynnwys adnoddau digidol pellach i'w golygu
- Mynediad llawn at adnoddau CânSing (diogelir gan gyfrinair)
Cost: £50 y person (cyfradd sesiwn unigol)
* Noder y bydd y sesiwn yma yn cael ei gyflwyno yn Saesneg gyda defnydd achlysurol o'r Gymraeg, ond bydd yr holl adnoddau CânSing a ddefnyddir ar gael yn y Gymraeg ac mewn Saesneg.
__________________________________
Sesiwn 2
Dydd Mercher 9fed Tachwedd
Sesiwn y prynhawn (1 - 4pm)
Cerdd/Canu a Llythrennedd - Sesiwn sydd yn canolbwyntio ar gysylltu adnoddau CânSing gydag elfen llythrennedd o'r FfLlRh (CA2)
Addas ar gyfer:
Pobl sydd â gwybodaeth ddigonol o adnoddau CânSing
Amcanion:
Darparu canllaw ymarferol ar ddefnyddio adnoddau CânSing fel cerbyd i ddatblygu llythrennedd, gan gynnwys:-
- strategaethau a gweithgareddau cerdd sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau llythrennedd, gyda phob un yn croesgyfeirio i'r Fframwaith Llythrennedd
- corffori a sefydlu'r fframwaith llythrennedd yn y cwricwlwm cerdd
- archwilio sut gall ganu gyfrannu at wella darllen, ysgrifennu a llefaredd ar draws y cwricwlwm
Byddwch yn derbyn pecyn CânSing a fydd yn cynnwys:-
- Arweinlyfr wedi ei argraffu a detholiad o ganllawiau dysgu
- CD CânSing (detholiad o draciau cefndir)
- USB CânSing sy'n cynnwys adnoddau digidol pellach i'w golygu sy'n ymwneud â llythrennedd
- Mynediad llawn at adnoddau CânSing (diogelir gan gyfrinair)
Cost: £50 y person (cyfradd sesiwn unigol)
*Noder y bydd y sesiwn yma yn cael ei gyflwyno yn Saesneg gyda defnydd achlysurol o'r Gymraeg, ond bydd yr holl adnoddau CânSing a ddefnyddir ar gael yn y Gymraeg ac mewn Saesneg.
Dewch i'r DDAU sesiwn am DDIM OND £75!!
I drafod cynnwys y cwrs neu unrhyw anghenion hyfforddi arall, e-bostiwch info@cansing.org.uk
Rydym yn hynod falch o gyhoeddi y bydd ein dathliadau blynyddol eleni yn fwy ac yn well nac erioed, gyda digwyddiadau o faint yn cael eu cynnal yn y Gogledd a'r De yn ystod wythnos Mehefin 20fed - 24ain.
Bellach mae CânSing yn ei seithfed flwyddyn ac mae'n parhau i gadarnhau'r enw da sydd gan Gymru fel 'Gwlad y Gân' drwy ddarparu adnoddau, hyfforddiant, cefnogaeth a digwyddiadau ar draws y wlad. Mae teulu CânSing yn parhau i dyfu ac rydym falch o'n llwyddiannau cyfunol. Felly eleni, a chan weithio gyda'n partneriaid gwych, rydym wedi penderfynu ymestyn ein digwyddiad blynyddol arferol o 1 diwrnod i wythnos gyfan, i'n galluogi i gefnogi mwy o ddigwyddiadau a darparu mwy o gyfleoedd i chi ddathlu, ble bynnag rydych chi!
Bydd pob digwyddiad ychydig yn wahanol ond bydd pob un yn cael ei ddarparu gan un (neu ragor) o'n tîm o Animateurs proffesiynol gan gynnig rhaglen amrywiol o repertoire. Hyd yn hyn gallwn gadarnhau:
Dyddiad |
Lleoliad |
Mewn partneriaeth gyda |
Dydd Llun 20fed Mehefin |
Sefydliad y Glowyr, Y Coed Duon
|
Gwasanaeth Cerdd Caerffili |
Dydd Mawrth 21ain Mehefin |
Canolfan Celfyddydau Memo, Y Barri |
WNO a Memo Y Barri |
Dydd Mercher 22ain Mehefin |
Venue Cymru, Llandudno |
WNO a Gŷyl Gorawl Gogledd Cymru |
Dydd Iau 23ain Mehefin |
Neuadd William Aston, Prifysgol Glyndŷr, Wrecsam |
WNO a Gwasanaeth Cerdd Wrecsam |
Dydd Gwener 24ain Mehefin |
I'w gadarnhau/gweler isod |
I'w gadarnhau/gweler isod |
Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un, yn enwedig o ardal Gorllewin Cymru, a fyddai'n awyddus i gynnal digwyddiad ar ddydd Gwener, 24ain Mehefin (neu ar ddiwrnod arall o'r wythnos honno os bydd modd i aelodau o'n tîm ddod i gefnogi).
I gofrestru eich diddordeb mewn un (neu ragor) o'r digwyddiadau, dilynwch y dolenni uchod. Hefyd, rhowch wybod i ni am eich dathliad CânSing chi.
Unwaith yn rhagor, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gydag Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), ac eleni mae gennym 3 digwyddiad ar y cyd. Bydd ein ffocws y flwyddyn hon ar adnoddau newydd CânSing / WNO Sosban Fach. Rydym yn cysylltu'r gân werin Gymreig enwog hon gyda byd y bêl hirgron ac fe'i canwyd yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd y darn ar gael fel fersiwn corawl (trefniant Jeff Howard, a gomisiynwyd yn wreiddiol gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC) gyda chyfieithiad Saesneg newydd gan Sian Meinir (Corws, Opera Cenedlaethol Cymru) a thrac cyfeiliant cerddorfaol llawn er mwyn i bawb gael dysgu a chanu gyda'i gilydd!
Rydym hefyd yn hynod falch o fedru gweithio mewn partneriaeth gyda Gŷyl Gorawl Gogledd Cymru. Yn rhan o'r digwyddiad blynyddol 3 diwrnod yma yn Venue Cymru Llandudno mae "diwrnod ysgolion" (Tachwedd 4ydd, 2016) ac fe garem weld rhai o'n Ysgolion CânSing yn cymryd rhan. Am y tro cyntaf eleni, bydd ysgolion yn cael perfformio gan ddefnyddio traciau cyfeiliant CânSing - sy'n hynod gyffrous! Bydd rhagor o wybodaeth ar gael a "gorsafoedd cofrestru" yn y ddau ddigwyddiad yng Ngogledd Cymru (Wrecsam a Llandudno) ond rydym yn estyn croeso i ysgolion o bob cwr o Gymru hefyd. Am ragor o wybodaeth ynghylch Gŷyl Gorawl Gogledd Cymru ewch i www.northwaleschoralfestival.com
Gobeithiwn yn fawr y byddwch yn ymuno ag un o'r digwyddiadau dathlu yn eich ardal chi. Mae pob digwyddiad yn rhad ac am ddim a'r cyntaf i'r felin yw hi felly mae'n bwysig bod ysgolion yn archebu lle yn fuan fel nad oes neb yn cael eu siomi.
Mae'r trefniadau archebu yn wahanol ar gyfer pob digwyddiad, felly danfonwch e-bost at cansing@wno.org.uk i archebu lle erbyn 24/5/16
Edrychaf ymlaen at eich gweld yn un o'r digwyddiadau!
Daliwch ymlaen i ganu!
Suzanne
Suzanne Barnes
Cyfarwyddwr
CânSing
Gwahoddiad i gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol CânSing!
Digwyddiad Dathlu Caerffili
Dydd Llun 20fed Mehefin - Sefydliad y Glowyr, Y Coed Duon
Bydd cyfle i filoedd o blant ar draws Cymru ddathlu eu hymglymiad gyda rhaglen CânSing yn ystod wythnos o ddathlu (20fed-24ain Mehefin) gyda digwyddiadau yn cael eu cynnal ym mhob cwr o Gymru. Yn Caerffili bydd y dathliadau yn cynnwys Gŷyl Ysgolion Cynradd ar gyfer unrhyw ysgol yng Nghaerffili a fydd yn benllanw'r bartneriaeth rhwng CânSing, a Gwasanaeth Cerdd Caerffili sydd yn cydweithio'n gyson i sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd Wrecsam yn cael cyfle i "ddod o hyd i'w llais".
Rhaglen ddrafft:
10:00 - sesiwn 1
13:00 - sesiwn 2
MANYLION AR GYFER YSGOLION:
- Grŷp oedran: Blynyddoedd 5, 6 a 7 gyda'r nod o gefnogi pontio o addysg gynradd i uwchradd (yn achos ysgolion cynradd llai gallwn dderbyn blynyddoedd 3 a 4 hefyd os oes angen cynnwys yr holl adran iau)
- Mae'r digwyddiad yma yn RHAD AC AM DDIM ond rhaid i ysgolion ddarparu eu cludiant eu hunain.
- Nid oes raid i ysgolion baratoi ar gyfer y cyngerdd, fodd bynnag, os yw eich ysgol yn dymuno perfformio'u hoff ddarn o fanc caneuon CânSing, rhowch wybod inni.
Danfonwch e-bost at PURSEYH@caerphilly.gov.uk i archebu lle erbyn 20/5/16 ac nodwch eich dewis o sesiwn (1 neu 2)
Am ragor o wybodaeth ynghylch CânSing cysylltwch â Suzanne Barnes ar suzanne.barnes@cansing.org.uk
caerphilly 20.6.16 Cymraeg.pdf