Am CânSing
Ariannir Rhaglen Ganu ContinYou Cymru [CânSing] gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae'n brosiect peilot dwy flynedd. Amcan cyffredinol y gwaith hwn yw codi proffil a safon canu ledled Cymru drwy ymestyn cyfleoedd a gwella ansawdd darpariaeth a throsglwyddo o fewn ysgolion.
Tanategir y datblygiad hwn gan raglen hyfforddi ac adnoddau, i'w defnyddio'n bennaf gan y rhai sy'n gweithio ar gyfnodau allweddol 2 a 3 ac felly'n gweithredu fel mecanwaith ar gyfer ymglymu a dysgu ym mlynyddoedd 5, 6 a 7. Yn ychwanegol, bydd y fenter arfaethedig yn cynorthwyo trawsnewidiad disgyblion o ysgol gynradd i uwchradd a chysylltu gyda dysgu tu allan i oriau ysgol [dtaoy] a datblygiad ysgolion bro.
Mae pedair elfen allweddol y rhaglen yn cynnwys:
- Defnyddiau a Phecyn Cymorth
- Hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer ysgolion ac AALl
- Gwerthusiad annibynnol
- Dathlu.
Defnyddiau a Phecyn Cymorth
Bydd y Pecyn Cymorth arfaethedig yn hyblyg a bydd adnoddau datblygiadol yn esblygu i gyfarfod ag anghenion ysgolion. Bydd yr holl ddefnyddiau ac adnoddau ar gael yng Nghymraeg a Saesneg.
Y Banc Caneuon
Y gred gyffredinol yw bod adnodded/cyfeiliant cerddorol yn hanfodol i gefnogi'r defnydd o ganu yng nghyswllt ysgol. Nid i gymryd lle taflenni cerdd, ond yn ychwanegol iddynt, gydag esiamplau, traciau cyfeilio a lleisiol i staff a phlant eu defnyddio i orau gyfarfod a'u hanghenion. Bydd yn cynnwys defnyddiau presennol a newydd.
Cynhyrchir elfennau craidd yr adnoddau mewn copi caled ac fel adnodded ar y we, gan ddelio felly gyda dewisiadau gwahanol y rhai sy'n ymwneud â'r prosiect wrth gael mynediad i fuddion y ddau gyfrwng. Er hynny, mae'n bosibl mai dim ond ar lein y bydd defnyddiau ychwanegol neu fwy arbennig ar gael. Penderfynir hyn gan y grwp ymgynghorol ac unrhyw gyfyngiadau technegol.
Hyfforddiant a Chefnogaeth
Yn ogystal â'r Pecyn Cymorth a Defnyddiau bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:
- Hyfforddiant 2 ddiwrnod i ffwrdd o'r ysgol [gyda staff llanw]
- Dyddiau cefnogi mewn clwstwr
- Cefnogaeth bwrpasol ychwanegol
- Gwaith partneriaeth mewn clwstwr.
Model ar gyfer trosglwyddiad clwstwr:
Ar sail awdurdod lleol daw uchafswm o 4 clwstwr o ysgolion ynghyd ar gyfer hyfforddiant grwp. Mae hyn yn cynrychioli uchafswm o 24 ysgol [fel canllaw: 4 uwchradd, 20 cynradd] y bydd y gost llanw'n dod o gyllideb y rhaglen. Trosglwyddir yr hyfforddiant a chefnogaeth ychwanegol, bwrpasol ar sail ysgol unigol neu glwstwr yn dibynnu ar yr anghenion canfyddadwy. Penderfynir ar yr ysgolion targed yn lleol, mewn cydweithrediad a'r partneriaid. Er hynny, mae ContinYou Cymru yn awyddus iawn bod ystod eang o ysgolion yn cael eu cynrychioli yn y peilot, i gynnwys, er enghraifft, ysgolion cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg, dwyieithog ac arbennig.
Gwerthusiad
Bwriedir bod asiantaeth annibynnol, i'w ddewis gan y grwp ymgynghorol, yn cynnal y gwerthusiad. Er hynny, i ddangos ymrwymiad ContinYou Cymru i werthusiad ystyrlon a pherthnasol o'r rhaglen, rydym wedi rhoddi cryn ystyriaeth i'r mater ac awgrymwn fod y gwerthusiad yn ceisio asesu llwyddiant y prosiect yn y 6 maes canlynol:
- Y Pecyn Cymorth
- Gwefan
- Sesiynau codi ymwybyddiaeth/hyfforddiant
- Canlyniadau yn dilyn y sesiwn hyfforddiant/Pecyn Cymorth
- Effaith ar staff? A disgyblion sy'n cymryd rhan yn y peilot
- Effaith ar safonau, a'r agwedd tuag at ganu mewn ysgolion sy'n cymryd rhan.
Digwyddiad Dathlu
Gobeithir cynnal digwyddiad [neu ddigwyddiadau] dathlu ar ddiwedd y prosiect sy'n cynnwys pob ysgol gymerodd ran mewn rhyw ffordd. Cynhelir trafodaeth bellach ar union fformat a chynnwys y digwyddiad[au] gyda'r Grwp Ymgynghorol. Rhoddir sylw arbennig i fforio unrhyw gyfle i ddefnyddio technoleg ddigidol fel mecanwaith ar gyfer hyrwyddo a dathlu llwyddiant y fenter. Hyd yma ni sicrhawyd unrhyw arian i gefnogi'r dathlu.
Cyfathrebiad
Dylai unrhyw un sydd eisiau derbyn diweddariadau rheolaidd ar gynnydd y fenter hon gofrestru gyda'r Swyddog Prosiect, Suzanne Barnes [suzanne.barnes@continyou.org.uk].