Hygyrchedd
Mae CânSing yn ymdrechu i gydymffurfio gyda phob nod hygyrchedd ar gyfer Blaenoriaeth 1 a 2 mewn perthynas â'r holl ddeunydd sydd gennym ar y We, yn ôl gofynion Consortiwm y We Fyd Eang [W3C] a Menter Hygyrchedd y We [WAI]. Mae WAI yn hybu elfen gref o ddefnyddioldeb ar gyfer y rhai hynny sydd ag anableddau. Mae W3C yn hyrwyddo arfer da ymysg cymuned y We gyda mentrau megis WAI [http://www.w3.org/WAI/] Canllawiau Hygyrchedd Cyswllt y We 1.0.
Wrth ddylunio'r wefan rhoddwyd ystyriaeth i'r canllawiau hygyrchedd canlynol:
- Dyluniwyd y tudalennau fel bod modd eu gweld ar gydraniad sgrin 800 x 600 picsel.
- Bod strwythur y dudalen yn amlwg o'r elfennau pennyn.
- Y defnydd o ddalennau arddull gyda maint ffont perthynol ar yr holl destun, ar wahân i'r testun graffig.
- Gellir newid maint y ffont trwy ddefnyddio "view" yn eich dewisiadau porwr.
- Bydd delweddau sydd yn cyfleu gwybodaeth bwysig yn cynnwys testun ychwanegol. Ni fydd testun ychwanegol gyda'r delweddau hynny sydd i ddibenion addurniadol yn unig.
- Ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei gyfleu gyda lliw yn unig.