Cân: Sain y Morthwylion
- Teitl:
- Sain y Morthwylion
- Cyfansoddwr:
- Rossini
- Trefniant:
- Helen Woods
- Geiriau:
- George Mead/ Sioned Harries
- Cywair:
- C Fwyaf
- Amrediad lleisiol:
- 14eg B3-A5
- Rhannau:
- 4
- Safon:
- Heriol
- Thema:
- Opera / Cynnwrf / Pendro / Dryswch
'Sain y Morthwylion' yw'r gân olaf ar ddiwedd act gyntaf The Barber of Seville (1816), opera enwocaf y cyfansoddwr Eidalaidd, Gioachino Rossini. Yn yr olygfa yma, mae'r heddlu'n cyrraedd tŷ Doctor Bartolo i dal Cownt Almaviva, sydd wedi'i guddio fel 'Lindoro' – ond maent yn ei ryddhau pan mae'n datgelu ei wir hunaniaeth.
Mae pob un o gymeriadau'r opera ar y llwyfan, ac mae pawb wedi drysu ynglŷn â pham mae 'Lindoro' wedi cael ei ryddhau. Mae'r awyrgylch yn llawn tensiwn, gan fod Doctor Bartolo yn ddig ac mae Almaviva eisiau achub Rosina (merch fabwysiedig Doctor Bartolo). Mae 'Sain y Morthwylion' yn mynegi emosiynau pawb; maent yn teimlo eu bod yn mynd yn wallgof!