Cân: Cytgan Hymian
- Teitl:
 - Cytgan Hymian
 - Cyfansoddwr:
 - Giacomo Puccini
 - Trefniant:
 - Helen Woods
 - Geiriau:
 - Cywair:
 - E Feddalnod Fwyaf
 - Amrediad lleisiol:
 - 11fed
 - Rhannau:
 - 2
 - Safon:
 - Canolradd
 - Thema:
 - Opera
 
Mae'r 'Humming Chorus' yn dod o'r opera Madam Butterfly gan Giacomo Puccini.
Cafodd Madam Butterfly ei pherfformio gyntaf yn 1904 a hon oedd ffefryn Puccini ei hun ymhlith ei operâu. Ysgrifennwyd y libreto (testun opera) gan Giacosa ac Illica ac mae'n seiliedig ar stori fer o'r un teitl a ysgrifennwyd gan John Luther Long (1898). Mae'r opera yn digwydd mewn tÅ· sy'n edrych dros Nagasaki, Siapan, rhwng 1889 a 1892, ychydig cyn dechrau'r rhyfel rhwng Tseina a Siapan. Mae'r 'Humming Chorus' yn cael ei berfformio yn Act Dau ac yn cael ei ganu gan y corws, oddi ar y llwyfan, gan ddangos treigl amser.
                    