Cyfarfod y Tîm

Aled Powys Williams

aled.williams@cansing.org.uk

Brodor o Ddyffryn Aman yw Aled. Graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, lle bu'n astudio Astudiaethau Lleisiol. Mae e wedi bod yn llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen, ac mewn cystadlaethau eraill gan gynnwys bod yn rownd derfynol Canwr y Flwyddyn Bro Morgannwg a Chanwr Ifanc Cymraeg Theatr Gerdd y Flwyddyn.

Mae ei berfformiadau unwadydd gwadd yn cynnwys St John's Passion - Bach, Requiem - Faure, Missa in Tempore Belli & Maria Theresa Mass - Haydn, Elijah - Mendelssohn, Caneuon o'r fflyd - Stanford, Croeshoeliad - Stainer ac Offeren yn G - Schubert.

Yn ogystal â'r uchod, mae'n Enillydd Gwobr Brit Clasurol ac yn gyn-aelod o gôr Only Men Aloud a enillodd Cystadleuaeth BBC Last Choir Standing. Mae Aled wedi teithio'n helaeth gyda'r gr?p ar draws y DU ac America. Uchafbwyntiau eraill yn cynnwys perfformio yn y Royal Variety Performance (London Palladium) ac ar gyfer cyngerdd agoriadol Cwpan Ryder 2011 (Stadiwm y Mileniwm). Yr oedd hefyd yn aelod o Gorws Cenedlaethol BBC Cymru gyda hwy enillodd ysgoloriaeth.Mae ei rolau yn cynnwys:

  • The Keeper - The Rake's Progress, King Charles - Candide,
  • Billy - The Calling of Maisy Day (Canolfan Mileniwm Cymru),
  • Dan Cairo - Carmen (Dolman Theatre),
  • Baron de Gondermarck - La Vie Parisienne, Samuel - Pirates of Penzance,
  • Papageno - The Magic Flute (CBCDC),
  • Dewi - The Journey (Opera Cenedlaethol Cymru)
  • Aladdin - Aladdin (Theatr Glan yr Afon)
  • Prince Charming - Cinderella (Camberley Theatre)

Ochr yn ochr gydai berfformio, mae Aled hefyd yn gweithio fel animateur lleisiol i Only Boys Aloud, Head4Arts ac Opera Cenedlaethol Cymru. (www.aledpowyswilliams.com)

Aled Powys Williams
<< Nôl