Cyfarfod y Tîm

Owain Gethin Davies

Datblygu adnoddau

owaingethin@cansing.org.uk

Mae Owain Gethin Davies yn hanu yn wreiddiol o ardal Llandudno ond bellach wedi ymgartrefu yng Nglan Conwy. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Y Creuddyn cyn mynd i Brifysgol Bangor i astudio gradd BMus (Cerddoriaeth). Yn dilyn graddio aeth ymlaen i gwblhau cwrs addysg uwchradd a derbyn ei swydd ddysgu cyntaf yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon.

Ers 2005 bu'n Bennaeth yr Adran Gerddoriaeth yn ei hen ysgol sef Ysgol Y Creuddyn. O dan ei arweiniad fe wnaeth yr ysgol ennill yn yr Urdd ar sawl achlysur gyda chorau amrywiol yr ysgol a chaneuon actol.

Am gyfnod o ddwy flynedd (2008 - 2010) aeth Owain Gethin ar secondiad gyda NGfL Cymru fel Swyddog Datblygu Maes Cerddoriaeth gan ddatblygu adnoddau Cerddoriaeth o'r Cyfnod Sylfaen hyd at gyrsiau Lefel A ar gyfer y safle. Dyma arweiniodd at ei waith gyda CânSing; mae Owain Gethin wedi bod yn rhan o'r tîm ers y dechrau.

Yn ogystal, mae Owain Gethin wedi awduro sawl adnodd cerddoriaeth megis cyfres o unedau ar BBC Bitesize, Gwerthuso TGAU, Cyfansoddi Creadigol a Theori Cerddoriaeth a Sain.

Ers mis Medi 2020 mae Owain Gethin Davies wedi bod yn Bennaeth ar Ysgol Dyffryn Conwy Llanrwst ac yn ei amser hamdden yn arweinydd Côr Meibion Colwyn.

Owain Gethin Davies
<< Nôl