Cyfarfod y Tîm
Sioned Foulkes
Animateur Lleisiol a Chydlynydd Prosiectau
sioned.foulkes@cansing.org.uk
Mae Sioned wedi gweithio i CânSing er bedair blynedd, ochr yn ochr â rhannau eraill o’i gyrfa bortffolio ac mae ganddi rôl amlochrog fel Animateur Lleisiol a Chydlynydd Prosiectau o fewn y sefydliad.
Fel addysgwr ysgol gynradd brofiadol mae’n dod â chyfoeth o wybodaeth, sgiliau, profiad a dealltwriaeth o’i rolau niferus mewn Uwch Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Cydlynu Anghenion Dysgu Ychwanegol, Athrawes Ymgynghorol y Gymraeg i’r Awdurdod Lleol, Darlithydd Prifysgol a Rheolwr Corws Cymunedol Opera Cenedlaethol Cymru – mae hi'n gwybod ei stwff!
Sioned sydd wedi ysgrifennu ac sy’n cyflwyno ein hyfforddiant pwrpasol Cymraeg Campus a Siarter Iaith, sef datblygu sgiliau Cymraeg staff a disgyblion trwy raglen ganu sy’n eu cefnogi i gyflawni targedau iaith Gymraeg pwrpasol.
Yn ddiweddar mae hi wedi ymgymryd â’r dasg aruthrol o adnewyddu ein Taflenni Cefnogi Caneuon a’n Canllawiau i adlewyrchu gofynion y Cwricwlwm i Gymru newydd a datblygiad ein cynnig o ganeuon newydd i sicrhau amrywiaeth, chydraddoldeb a chynwysoldeb.